top of page

Croeso
Sefydlwyd Rhaglen Diogelwch Adeiladau Cymru i fynd i’r afael â rhai o’r heriau yn dilyn trychineb Grenfell. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi preswylwyr a lesddeiliaid drwy raglen gadarn sy’n mynd i’r afael â materion diogelwch tân sydd eisoes yn bodoli eisoes mewn adeiladau 11 metr neu uwch.
Mae profiadau go iawn lesddeiliaid a phreswylwyr yn eithriadol o bwysig i’n helpu ni i ddeall yr heriau a’r anawsterau sy’n wynebu’r rhai sy’n byw mewn adeiladau yr effeithir arnynt.
Sefydlwyd y grŵp Lesddeiliad a Phreswylwyr er mwyn i lesddeiliaid a phreswylwyr adeiladau 11 metr neu uwch allu rhannu eu profiadau, gofyn am gymorth a llywio polisi cenedlaethol ynghylch diogelwch tân adeiladau yng Nghymru.
bottom of page
